Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

7 Mai 2014, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Nodyn o’r Cyfarfod ynghylch Toiledau cyhoeddus a’r Bil Iechyd y Cyhoedd newydd

Yn bresennol

Ymddiheuriadau

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

David Melding AC

Julie Morgan AC

Emily Warren, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA)

Mark Isherwood AC

Ruth Crowder, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Mark Major, Staff Cymorth Suzy Davies AC

Monika Hare, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Robyn Miles, Materion Llywodraeth y DU a Pholisi, Glaxo Smith-Kline

Iwan Williams, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

Phil Vining, Age Connects Caerdydd

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

 

Carol Maddock, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

 

Robin Moulster, BASW Cymru

 

Andrew Bell, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA)

 

Lorraine Morgan

 

Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

 

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

 

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

 

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

 

Gareth Powell

 

Graeme Francis, Age Cymru

 

Gerry Keighley, Age Cymru

 

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

 


Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Mike Hedges AC bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau.

Materion yn codi o’r cyfarfod blaenorol.

Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion blaenorol.

 

 

 

 

Adroddiad ar y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Arweiniodd Graeme Francis y drafodaeth hon drwy ofyn am ail-ethol Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol. Ail-etholwyd Mike Hedges AC yn Gadeirydd ac ail-etholwyd Laura Nott, Age Cymru yn Ysgrifennydd.

 

Cyflwyniad gan John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

 

Rhoddodd John Vincent drosolwg o’r modd y mae Senedd Cymru yn rhoi llais i bobl hŷn ledled Cymru ac mae dros 50 o sefydliadau pobl hŷn yn gysylltiedig ag ef. Un o’u hymgyrchoedd yw ‘P am Pobl’, sy’n ceisio diogelu toiledau cyhoeddus yng Nghymru.

Rhaid i bobl hŷn wneud asesiad risg bob tro y byddant yn gadael eu cartrefi. A fydd toiledau cyhoeddus ar gael? Maent yn teimlo eu bod wedi’u cyfyngu ac yn gaeth i’w tai oherwydd y broblem hon, sy’n gallu arwain at broblemau meddyliol a chorfforol.

Nid pobl hŷn yw’r unig rai yn y sefyllfa hon, er enghraifft, mae pobl anabl, menywod beichiog a phlant yn poeni yn yr un modd. Mae’r holl bobl hyn yn cael eu cyfyngu oherwydd nifer y toiledau sydd ar gael iddynt.

Ysgrifennodd Senedd Pobl Hŷn Cymru adroddiad yn ddiweddar yn galw am y canlynol:

·         Llywodraeth Cymrui ddarparu mwy o arian ar gyfer y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus ac adfer y drefn o neilltuo arian yng nghyllidebau awdurdodau lleol drwy ei ddyrannu fel grant unigol y tu allan i’r Grant Cynnal Refeniw.

·         Dylai’r gyllideb flaenorol a oedd ‘wedi’i neilltuo’ ond heb ei gwario, gael ei hail-fuddsoddi yn y cynllun, gan gynnwys arian i ddigolledu awdurdodau lleol am y costau hyrwyddo a gweinyddu sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus.

·         Awdurdodau lleol i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei hyrwyddo / hysbysebu’n effeithiol a hynny mewn fformatau printiedig a digidol.

·         Dylid ymchwilio i broblemau a / neu wrthwynebiadau posibl, a’u tynnu mewn modd pendant drwy ddarparu pecynnau gwybodaeth sy’n cwmpasu ffactorau fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, iechyd a diogelwch, gofynion o ran arwyddion allanol / mewnol ar y safle ac ati.

·         Awdurdodau lleol i fod â dyletswydd statudol (a gaiff ei fonitro a’i orfodi gan Lywodraeth Cymru) i sicrhau, fel hawl sylfaenol a ffordd o ddiogelu iechyd y cyhoedd, fod digon o doiledau cyhoeddus sy’n eiddo i’r awdurdod lleol a / neu doiledau preifat y gall y cyhoedd eu defnyddio, ar gael ym mhob tref / dinas fawr yng Nghymru.

Yn y tymor byr

·         Dim gostyngiad pellach yn awr o ran y cyfleusterau toiledau hygyrch, sydd ar gael i’r cyhoedd ledled Cymru.

·         Tynnu meini prawf cymhwyso neu ddulliau profi y cymhwyster ar gyfer allweddi RADAR, gan gynnwys darparu allweddi, yn y tymor byr, i unigolion a all fod yn analluog dros dro. Cost yr allweddi i fod naill ai wedi’i ddileu yn gyfan gwbl neu ei fod wedi’i osod ar yr un gost enwol ledled Cymru (uchafswm o £1.00 yr un).

Tymor canolig:

·         Dylai toiledau cyhoeddus gael arwyddion da a bod ar gael o leiaf un awr ar ôl diwedd oriau gweithredol y ganolfan neu’r parc manwerthu.

Yr hirdymor:

·         Dylai pawb fod o fewn 300 metr i doiled cyhoeddus sy’n eiddo i awdurdod lleol ac sydd ag arwyddion iddo / neu doiled perchnogaeth breifat, sy’n hygyrch i’r cyhoedd ym mhob canol tref / dinas fawr yng Nghymru.

Cwestiynau

Julie Morgan AC -  mae hyn yn destun pryder mawr. Pan oeddwn yn Aelod Seneddol, bûm yn gweithio gyda Chymdeithas Toiledau Prydain - mae llawer o bobl hŷn yng Ngogledd Caerdydd yn siarad am y mater hwn, a hoffwn i weithredu ar lefel leol.

Phyllis Preece- Mae gormod o siarad a dim digon o weithredu. Mae toiledau Mynwent Cathays wedi cau, mae’r toiledau ym mharciau Caerdydd a llawer o rai eraill wedi cau. Mae’r toiledau cyhoeddus yn yr Aes wedi ail-agor, ond maent yn dal i fod ar gau - dywedir eu bod wedi’u hadnewyddu ond nid yw hyn yn ddigon da. Maent yn dweud y dylai pobl gario dillad sbâr ar gyfer eu plant, ond mae’n rhaid i bobl hŷn wneud yr un peth hefyd.

Andrew Bell-A wnaed astudiaeth ar y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus?

John Vincent  - Rydym wedi cysylltu ag awdurdodau lleol am y mater, a chafwyd rhai ymatebion gwahanol.

Andrew Bell- o ran y busnesau sy’n rhan o’r Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus, a oes ganddynt sticeri i ddangos bod eu toiledau yn hygyrch i’r cyhoedd eu defnyddio?

John Vincent- oes, mae gan rai busnesau sticeri, ond mae angen i’r sticeri fod yn fwy amlwg.

Iwan Williams- Mae rhai pobl hŷn yn ymwybodol eu bod yn gallu defnyddio toiledau busnesau, ond maent yn teimlo’n anghyfforddus yn defnyddio cyfleusterau preifat. Ac mae hygyrchedd yn broblem, er enghraifft, mae gan dafarn leol ddeg o risiau i’r toiledau.

Robin Moulster- mae awdurdodau lleol yn meddwl mewn seilos, fel petai, - mae llawer o sôn am bobl hŷn ac unigedd, ond faint o gefnogaeth a roddir i bobl hŷn?

Mike Hedges AC- Weithiau nid yw’n fater o nifer y toiledau cyhoeddus yn unig, ond mae eu lleoliad yn broblem weithiau. Mae’r Cyfleusterau Cyhoeddus ar ochr anghywir gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft, mae meddygfeydd a thoiledau cyhoeddus ym mhen draw’r stryd. Mae angen i fusnesau sy’n agor eu drysau i’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau fod yn haws eu hadnabod. Os nad ydych yn gwybod ble i edrych amdanynt gall hyn fod yn anodd, felly mae angen i bobl hŷn ofyn, ond weithiau nid ydynt yn dymuno gofyn.

Lorraine Morgan- nid yw’r pwynt a wnaed am anymataliaeth yn broblem a gysylltir â heneiddio yn unig, gall fod yn broblem i bawb. Bydd yn rhaid i ni aros i’r Bil Iechyd y Cyhoedd gael ei roi ar waith ac am i awdurdodau lleol beidio â chau rhagor o doiledau cyhoeddus cyn y gwelwn unrhyw newid yng Nghymru. Gallai hyn gymryd hyd at ddwy flynedd.

Simon Wilkinson- (wrth John Vincent) tybed a oes modd i chi rannu’r wybodaeth a anfonwyd gennych at awdurdodau lleol? Gallaf fi ei rhannu o fewn fy rhwydwaith yn y Gymdeithas Llywodraeth Leol, a’i gwneud yn fwy hygyrch (John Vincent i anfon y manylion draw drwy e-bost).

Gerry Keighley- Dylai gweinidogion llywodraeth leol ac Aelodau’r Cynulliad roi pwysau ar awdurdodau lleol i fanteisio ar y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Mae diffyg cysondeb yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, a dylent fod unffurf, ac ni ddylid cael eithriadau oherwydd loteri’r cod post.

Mike Hedges- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gweinidog Llywodraeth Leol i rannu gwybodaeth.

Mark Isherwood AC  - Dylai’r Gymdeithas Manwerthu elusennau fod yn rhan o’r cymorth tuag at sicrhau bod toiledau cyhoeddus ar gael. Dylid gwneud gwaith ymchwil a gofyn beth a fyddai effaith codi tâl enwol am ddefnyddio toiledau cyhoeddus?

John Vincent  - gofynnwyd yr un cwestiwn gennym ni am godi tâl i ddefnyddio toiledau cyhoeddus, a dywedodd y rhan fwyaf o bobl y byddent yn fodlon ar hynny.

Nancy Davies  - Mae Canolfan Hamdden Llanelli yn cau, a gallai hyn amddifadu pobl hŷn o ran cael defnyddio toiledau.

Mike Hedges AC  - Mae llawer o adeiladau cyhoeddus â thoiledau ynddynt, a dylid gwneud i bobl hŷn deimlo bod croeso iddynt eu defnyddio.

Phyllis Preece- A oes modd cael gwybodaeth am faint o doiledau sydd wedi cau mewn parciau cyhoeddus?

 Mike Hedges AC  - mae’r parc yn Abertawe wedi cau eu toiledau cyhoeddus oherwydd bod pobl yn dwyn o’r cyfleusterau ac yn eu fandaleiddio.

Lynda Wallis- Mae cryn dipyn o doiledau cyhoeddus yn cau am 5:00, ac nid yw hyn yn ddigon da. Yn y Fro, mae gennym ganolfan hamdden sy’n eiddo i Parkwood. Mae’r toiled hwn yn hygyrch i bawb ac mae bob amser yn cael ei ddefnyddio yn gyson. Os gall y Fro wneud hynny, pam na all ardaloedd eraill wneud yr un peth?

Mike Hedges AC- mae gan yr uwchfarchnadoedd mawr doiledau yn ystod y dydd, ond pan fyddant yn cau mae’n anodd dod o hyd i doiledau eraill.

Ni fydd awdurdodau lleol yn aros tan y cyhoeddir adroddiad terfynol Llywodraeth Cymru, a’i argymhellion; byddant yn gwneud cynnydd ar y mater yn gyflym wrth iddynt gynllunio ar ei gyfer.

Simon Wilkinson- Pan fydd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer dyletswyddau newydd, mae’n rhaid iddynt gael y cyllid, a byddant yn ystyried yn ddwys iawn os nad yw’r arian ar gael.

Robin Moulster- Mae diffyg meddwl ar y cyd - mae angen cymorth ar bobl ac efallai bod ganddynt anghenion gofal, ond nid yw cau toiledau o gymorth i neb. Beth yw effaith y gwasanaethau cymdeithasol? Mae angen meddwl ar y cyd am les pobl a gweithredu gyda’n gilydd.

Mark Isherwood AC- Mynediad ac ansawdd - byddai’n syniad da ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i holi am y Cynllun Elusennau a mynediad at doiledau cyhoeddus a’u hansawdd. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sôn am fanciau, a rhoi’r hawl i bobl ddefnyddio eu toiledau.

Lorraine Morgan- mae’n ymwneud â iechyd meddwl pobl hŷn - mae’r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn’ yn crybwyll y dylai Cymru fod yn ‘lle da i fyw’. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cyflawni hyn os nad yw pobl hŷn yn cael mynediad at doiledau cyhoeddus.

Argymhellion/camau i’w cymryd

·         Cytunodd Mike y dylid anfon cofnodion y cyfarfod hwn fel llythyr i’w ystyried fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd.

·         Awgrymodd Mark Isherwood AC y dylid anfon llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â safon toiledau cyhoeddus a’r gallu i’w defnyddio, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio toiledau cyhoeddus mewn banciau a llyfrgelloedd.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

8 Hydref 2014